Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Cymreig arall, oedd hefyd ddim am gael ei enwi, bod y sefyllfa yn un “ofnadwy”, gan ychwanegu y dylai Mr Starmer aros, ond y dylid diswyddo ei bennaeth employees, Morgan McSweeney, sy’n cael ei gyhuddo gan nifer o bobl o roi cyngor gwael i’r Prif Weinidog.
Roedd Llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru, Mims Davies yn sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher.
Mewn cyfweliad â Radio Wales Breakfast ddydd Iau dywedodd ei bod yn gegrwth gyda’r datblygiadau.
“Roeddwn i ar y fainc flaen yn eistedd drws nesa’ i’n llefarydd ar iechyd, ac fe glywson ni’r Prif Weinidog o’r diwedd yn cyfaddef ei fod yn gwybod am y cyfeillgarwch rhwng Peter Mandelson a’r pedoffeil Jeffrey Epstein.
“Fe allech chi glywed pin yn disgyn, a dwi’n meddwl bod pawb wedi eu syfrdanu, gan gynnwys Aelodau Seneddol Llafur.
“Ond alla i ddweud wrth bawb y bore ‘ma, dwi’n credu y dylai’r dioddefwyr fod yn ganolog i hyn i gyd.
“Fe ddylen ni fod yn meddwl amdanyn nhw, yn darganfod pwy sy’n gyfrifol am y penderfyniad yma, ond yn y bôn mae’n dangos crebwyll gwael y Prif Weinidog eto.”
Source link
#Angen #Starmer #fynd #Aelod #Seneddol #Llafur #Cymreig

