Yn oriau mân fore dydd Sadwrn 7 Chwefror, Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Prif Arolygydd Ditectif Matthew Briggs fod bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol a bod â llafn yn ei feddiant.
Fe wnaeth y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe fore Sadwrn gan ddweud ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni yn unig.
Fe glywodd y llys fod y bachgen wedi cael ei gyhuddo o drosedd ychwanegol hefyd o geisio llofruddio.
Esboniodd yr erlyniad fod y bachgen wedi ymosod ar yr athrawes â chyllell cegin.
Eisteddodd y bachgen 15 oed yn y doc gan edrych i lawr am y llawr yr holl amser. Roedd aelodau o’i deulu, a oedd yn bresennol yn y llys, dan deimlad yn ystod y gwrandawiad.
Bydd yn cael ei gadw mewn llety cadw ieuenctid am y ddau ddiwrnod nesaf dan ofal awdurdodau lleol Sir Benfro.
Dywedodd yr ynadon nad oedd yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar dydd Llun 9 Chwefror.
Source link
#Aberdaugleddau #Bachgen #llys #wedii #gyhuddo #geisio #llofruddio

