Mae’r heddlu wedi enwi bachgen 17 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yn Abertridwr, sir Caerffili, ddydd Iau.
Cafodd plismyn eu galw i Stryd Francis Isaf yn Abertridwr tua 17:45 ddydd Iau ar ôl adroddiadau fod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu’n ddifrifol.
Bu farw Tristan Shae Kerr, o Abertridwr, wedi’r digwyddiad.
Mae tri dyn – un 26 oed o Lundain, un 24 oed o Abertridwr ac un 18 oed o Gaerdydd – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae dwy fenyw – un 28 oed o Henffordd ac un 24 oed o Senghennydd – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae’r pump yn parhau yn y ddalfa ac mae teulu Tristan yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, meddai’r llu.
Source link
#Enwi #bachgen #oed #farw #dilyn #digwyddiad #Abertridwr

