O ran ei waith fel awdur a chyhoeddwr mae D Ben Rees wedi gweithio mewn pum maes am gyfnod o dros 60 mlynedd – sef heddwch a heddychiaeth, diwylliant Cymru a hanes Cymry amlwg, hanes cymuned Gymraeg Lerpwl a glannau Mersi, diwinyddiaeth a hanes cenhadaeth fyd-eang a defosiwn a gweddïau.
Ymhlith ei lyfrau mae bywgraffiad Gandhi, cyfrol ar yr heddychwr Henry Richard a phedwar llyfr ar John Calfin a Chalfiniaeth.
Newydd ei chyhoeddi mae cyfrol arbennig o’i waith ar Gymry Lerpwl – un o nifer o gyfrolau ar hanes y ddinas.
Gydag yntau wedi sefyll mewn Etholiad Cyffredinol ar ran y Blaid Lafur yn y 1970au dyw hello ddim yn syndod ei fod wedi llunio cyfrolau ar aelodau amlwg o’r blaid yng Nghymru – yn eu plith Cledwyn Hughes, Aneurin Bevan a James Griffiths.
“Rwy’n credu mai’r cyfrolau Cymraeg a Saesneg i Mabon a Jim Griffiths rydw i fwya’ balch ohonyn nhw ac hefyd yr un Dr Owen Thomas, tad-cu Saunders Lewis – fe gafodd y gyfrol wobr Ellis Griffiths gan Brifysgol Cymru,” ychwanegodd.
“Rwy’n falch i ddweud er bo fi wedi cael gwaeledd yn ddiweddar bo fi’n dal i ysgrifennu.
“Ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu cyfrol ar sosialwyr Cristnogol o bob plaid a hefyd dwi’ wrthi yn ysgrifennu cyfrol ar y bobl a adeiladodd Lerpwl.
“Dwin lwcus bod fy meddwl dal yn chwim, rhaid cadw’n brysur – fyddai byth yn rhy hen i ysgrifennu.”
Mae cyfweliad D Ben Rees i’w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds
Source link
#Anrhydeddu #Ben #Rees #gyfraniad #oes #fyd #llyfrau

