Wrth edrych yn ôl dros yr 14 mis, dywedodd fod y profiad wedi bod yn heriol ond yn fuddiol a’i fod yn gobeithio cario mlaen i ddysgu’r iaith.
Mae Jeff eisoes yn gallu siarad Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg a Gwyddeleg.
“Mae pawb sy’n siarad Cymraeg hefyd yn siarad Saesneg,” meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.
“Nid oes rhaid i neb ei siarad, ond maen nhw’n gwneud hynny o gariad at eu diwylliant — ac roedd hynny’n hynod atyniadol i mi.”
Dechreuodd astudio Cymraeg ddiwedd 2024 gan ddefnyddio apiau, llyfrau a chyrsiau ar-lein, ond roedd diffyg pobl i ymarfer gyda nhw yn America yn gwneud y broses yn anodd.
Ychwanegodd fod y gwahaniaeth amser yn her arall, gyda rhai cyrsiau ar-lein yn cael eu cynnal yn oriau mân y bore yn Mississippi.
“Dydy hynny jest ddim yn gweithio,” meddai, gan egluro ei fod weithiau’n gorfod codi cyn 03:00 i gymryd rhan mewn gwersi.
“Byddai’n freuddwyd pe bawn i’n rhugl ac i bobl geisio dyfalu o ba ran o Gymru ro’n i’n dod,” meddai.
Source link
#Americanwr #teithio #milltir #sefyll #arholiad #Cymraeg

