Mae Syr Keir wedi ei feirniadu yn hallt gan y gwrthbleidiau a rhai aelodau o fewn ei blaid ei hun dros ei benderfyniad i benodi Peter Mandelson er gwaethaf ei gysylltiadau gyda’r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Cafodd Peter Mandelson ei ddiswyddo ym mis Medi wedi i ddogfennau gael eu rhyddhau oedd yn awgrymu bod perthynas agos rhyngddo ef ac Epstein.
Mae’r prif weinidog yn mynnu bod yr Arglwydd Mandelson wedi dweud celwydd am natur y berthynas honno.
Nos Lun fe wnaeth Syr Keir annerch aelodau’r Blaid Lafur yn NhÅ·’r Cyffredin, ble fynnodd na fyddai’n ymddiswyddo.
“Ar ôl brwydro mor galed i gael cyfle i newid ein gwlad, dydw i ddim yn barod i gefnu ar y fandad a’r cyfrifoldeb sydd gen i a gweld y wlad yn wynebu rhagor o anrhefn,” meddai.
Source link
#Morgan #cefnogi #Starmer #pryderon #dros #benodiad #Mandelson

