Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd pennaeth a phrif arolygydd Estyn bod ei dîm wedi gweithredu’n gywir.
“O ran Estyn, wnaethom ni bopeth oedd yn ddisgwyliedig,” meddai.
“Roedd Estyn wedi mynd i mewn, rhoi holiaduron mas, wnaeth hyn ddim peri pryder ar y pryd.
“Fe aethom ni mewn i ysgolion, gofyn cwestiynau, ond dim ond hyn a hyn mae Estyn yn medru gwneud o fewn y ddeddfwriaeth sydd efo ni.”
Roedd arolwg 2023 yn dweud bod awdurdod addysg Gwynedd yn “deall eu cyfrifoldebau” ym maes diogelu ac yn “cydweithio’n effeithiol gyda swyddogion gwasanaethau plant”.
Roedd y gweithredu yn “hynod o gadarn a thrwyadl iawn” pan oedd honiadau yn codi am workers, medd yr adroddiad.
Wedi ei gynnal ar y cyd â’r arolygydd cyllid Archwilio Cymru, roedd yr arolygwyr addysg yn edrych ar brosesau an information, gyda diogelu’n un agwedd o’r gwasanaeth addysg yn ei gyfanrwydd yng Ngwynedd.
Source link
#Estyn #ystyried #mwy #bwerau #atal #troseddwyr #fel #Neil #Foden

