Symudodd Sioned i fyw ym Mhenygroes gyda’i theulu newydd.
Roedd ei thad yn weinidog capel yn y pentref, ac er i’r teulu ei chroesawu roedd gwybod ei bod wedi’i mabwysiadu yn chwarae ar ei meddwl.
“Roedden nhw [ei theulu] yn dweud fy mod i’n arbennig, mod i’n sbesial, mod i wedi cael fy newis,” meddai Sioned, “tra ar y tu mewn o’n i’n trio gwneud synnwyr o bwy o’n i, ac yn teimlo ar goll yn aml”.
“O’n i’n aml iawn yn cael y breuddwydion yma, lle roeddwn i’n rhuthro drwy’r gofod a methu glanio yn nunlle, a methu credu fy mod i’n arbennig o gwbl.”
Wrth iddi fynd yn hŷn, roedd y teimlad o “beidio perthyn” yn “chwarae havoc” gyda’i hiechyd meddwl.
“Dwi’n siŵr bod yna blant allan yn fanna sydd wedi cael eu mabwysiadu ac wedi profi magwraeth arbennig iawn ac yn teimlo’n gwbl saff.
“Er mod i wedi cael magwraeth arbennig iawn, iawn, iawn… byth yn teimlo’n gwbl saff ac yn perthyn.
“Mae’n anodd iawn esbonio fo, methu perthyn i unrhyw le nag i unrhyw berson, nag i unrhyw ardal.”
Source link
#Sioned #Webb #Byth #teimlon #gwbl #saff #pherthyn #ôl #mabwysiadu

