“Ni’n cael rhai adegau hyfryd” meddai Anna, ond ychwanegodd bod “trawma a cholled” yn rhan fawr o fywyd ei merch.
“Mae’n eithriadol o anodd iddi hi, ac i ni fel teulu.”
Dywedodd Anna ei bod wedi gorfod brwydro i gael cefnogaeth a’n aml yn teimlo ei bod yn cael ei “beio” am ei sefyllfa.
“Beth dwi’n gweld yw bod pobl broffesiynol yn edrych arna i a’n cwestiynu ydw i’n rhiant digon da?
“Ni’n llythrennol yn cadw’n pennau uwchben y dลตr. Ni’n cael ein diystyru, ac mae pobl yn dweud bod rhaid i ni gario ‘mlaen gyda’r sefyllfa.”
Mewn ymateb i sylwadau Anna fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er nad ydyn nhw’n gallu trafod achosion unigol, maen nhw’n “flin i glywed” am ei phrofiad.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda rhieni a gwarchodwyr i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth maen nhw ei hangen.”
Dywedodd awdurdod lleol Anna eu bod wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth รข rhieni a’u bod yn cydweithio รข Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru lle mae asesiadau o’r angen a’r gefnogaeth yn cael eu rhannu.
Source link
#Mabwysiadu #Teuluoedd #angen #cymorth #gydol #oes #ddelio #thrawma

