Mae’r tair fferm ieir wedi’u lleoli ym Mhowys, o fewn dalgylchoedd afonydd sy’n cynnwys Afon Gwy ac Afon Hafren.
Mae’r ddwy afon wedi wynebu pryderon parhaus ynghylch ansawdd dŵr.
Yn 2023, fe gafodd statws Afon Gwy ei israddio i “anffafriol – ac yn dirywio” gan Natural England, corff cyfatebol i CNC yn Lloegr.
Mae Afon Gwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae’n gartref i rywogaethau gwarchodedig fel dyfrgwn, glas y dorlan, cimychiaid crafanc gwyn ac eog yr Iwerydd.
Mae yna lawer o wahanol ffynonellau llygredd sydd wedi cyfrannu at ddirywiad y Gwy.
Mae astudiaethau gan Brifysgol Caerhirfryn wedi dangos bod tua 70% o’r ffosffad yn nalgylch Afon Gwy yn dod o amaethyddiaeth, ond nid yw hynny i gyd yn gysylltiedig ag ieir.
Source link
#Cyhuddo #corff #amgylchedd #Cymru #osgoi #cyfrifoldeb #dros #lygredd #afon

