Mae’r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Cân i Gymru 2026 wedi cael eu cyhoeddi.
Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth a fydd, am y tro cyntaf ers dros 10 mlynedd, yn cael ei chynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror.
Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, yw cadeirydd panel y beirniaid unwaith eto – gyda Barry ‘Archie’ Jones o’r band Celt, y gantores a’r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard hefyd ar y panel.
Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.
Source link
#Cân #Gymru #Pwy #ywr #wyth #ymgeisydd #eleni

