Mae Cyngor Abertawe wedi gofyn i’r Uchel Lys atal cytundeb rhwng Undeb Rygbi Cymru (URC) a chwmni Y11 i brynu clwb Rygbi Caerdydd.
Mae Y11 hefyd yn berchen y Gweilch, sy’n chwarae yn Abertawe, a phryder y cyngor yw y byddai prynu Caerdydd yn peryglu dyfodol y Gweilch fel clwb.
Daeth cadarnhad ym mis Ionawr gan URC mai Y11 oedd eu dewis i brynu rhanbarth Caerdydd.
Mae URC hefyd eisiau torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri, ac mae dyfalu y gallai hynny olygu na fyddai’r Gweilch yn parhau fel tîm haen uchaf.
Ddydd Mercher dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai’r cytundeb arfaethedig yn “golygu diwedd y Gweilch fel tîm rygbi rhanbarthol proffesiynol i ddynion sy’n chwarae yn URC”.
Ychwanegodd y datganiad y byddai gorchymyn llys yn rhoi “cyfle i bawb ystyried opsiynau eraill ar gyfer dyfodol rygbi yng Nghymru”.
Dywedodd y cyngor eu bod eisiau gwrandawiad llys brys ac y gallai hynny ddigwydd cyn gynted â’r wythnos hon.
Ond petai URC yn y cyfamser yn ymrwymo’n ysgrifenedig i beidio â chwblhau’r cytundeb, yna byddai’n bosib gohirio’r gwrandawiad llys i ddyddiad diweddarach.
Mae’r cyngor yn dweud bod y cais am orchymyn llys wedi cael cefnogaeth unfrydol gan y cabinet.
Ddydd Mawrth gofynnodd Cyngor Abertawe i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gynnal ymchwiliad i gynllun Y11 ac URC.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cais am sylw.
Source link
#Cyngor #Abertawe #gwneud #cais #Uchel #Lys #atal #pryniant #Rygbi #Caerdydd

