Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai “canser yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o salwch a marwolaeth yng Nghymru – mae mwy i’w wneud i atal canser a dysgu trwy ymchwil”.
“Rydym wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd mewn cyfleusterau canser newydd, offer, systemau digidol, hyfforddiant gweithlu, triniaethau, sgrinio a gwasanaethau diagnostig.
“Rydym yn cefnogi byrddau iechyd i wella amseroedd aros canser fel rhan o’n Rhaglen Adfer Canser gwerth £2m, sy’n newid sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu i wella mynediad.”
Yn ôl Plaid Cymru maen nhw’n “siomedig fod Cymru yn parhau fel yr unig wlad yn y DU heb strategaeth canser” ac y dylai cynllun canser newydd gael ei gyflwyno yn “blaenoriaethu ataliaeth, diagnosis cynnar, a thriniaeth amserol i bawb”.
Dywedodd Reform UK fod amseroedd aros canser yn “parhau i fod yn annerbyniol o hir” a bod Cymru yn bell ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o’r DU, gan ddweud y byddai Reform yn lleihau’r amseroedd petai mewn grym.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi’n “gwbl anfaddeuol” bod cleifion canser yn y cymunedau tlotaf yn cael diagnosis hwyrach ac y dylai diagnosis cynnar, sgrinio priodol a mynediad at driniaeth amserol fod yn “flaenoriaeth”.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Blaid Werdd wedi derbyn cais am ymateb.
Source link
#Gwahaniaethau #goroesi #canser #dros #Gymru #dangos #problemau #parhaus

