Mae dyn wedi cael ei gyhuddo ar ôl i fenyw yn ei 80au gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell.
Fe aeth Heddlu De Cymru i eiddo ar Gilgant Poplar ym Mhorthcawl am 13:45 brynhawn Mawrth 17 Chwefror yn dilyn pryderon ynghylch lles menyw.
Mae Christopher Phillips, 60 oed o Borthcawl, wedi ei gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod “ymchwiliadau i’r farwolaeth yn parhau.”
Source link
#Cyhuddo #dyn #ôl #gorff #menyw #80au #gael #ganfod #mewn #rhewgell

