Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dau gorff wedi’u darganfod wrth chwilio am ddau ddyn ifanc oedd ar goll ar fynyddoedd Eryri.
Roedd pryder am ddiogelwch y dynion 19 ac 20 oed ar รดl i’r heddlu gael galwad eu bod ar goll ar Yr Wyddfa ar 18 Chwefror.
Cafodd criw o dimau achub mynydd Llanberis, Aberglaslyn, tรฎm awyrlu yr RAF, SARDA a Gwylwyr y Glannau eu galw i chwilio am y dynion ar Yr Wyddfa.
Yn anffodus, cafodd cyrff y ddau ddyn eu darganfod ar 19 Chwefror ac mae’r ddau bellach wedi’u hadnabod yn ffurfiol.
Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod am eu marwolaeth.
Mae’r heddlu yn gofyn am barchu preifatrwydd y teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd yma ac mae’r crwner wedi cael gwybod am y marwolaethau.
Dywedodd Jurgen Dissmann, Cadeirydd tรฎm achub mynydd Llanberis, “eu bod yn anfon eu cydymdeimlad dwysaf at deuluoedd y ddau ddyn sydd yn anffodus o drasig wedi colli eu bywyd.”
Mi gafodd y tรฎm yn ogystal รข thimau achub eraill eu galw gan yr heddlu i chwilio am y dynion mewn amodau gaeafol ar y mynyddoedd.
“Roedd y gwirfoddolwyr yn chwilio am y ddau ddyn mewn amodau heriol yn yr eira a’r rhew gan weithio oriau hir yn ystod y nos i geisio darganfod y dynion coll mor fuan รข phosib”, meddai.
Ychwanegodd Jurgen Dissmann “er gwaethaf ein holl ymdrechion i chwilio am y dynion, rydym yn hynod drist nad oedd y canlyniad fel yr oeddem wedi ei obeithio amdano.”
“Hoffwn ddiolch i dรฎm achub mynydd Aberglaslyn, tรฎm achub mynydd yr awyrlu RAF, SARDA a Gwylwyr y glannau am eu cymorth amhrisiadwy wrth chwilio am y dynion.”
Source link
#Dau #ddyn #ifanc #wedi #marw #mynd #goll #Wyddfa

