Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau ddyn ifanc a fu farw ar ôl mynd ar goll ar Yr Wyddfa.
Cafodd y ddau eu henwi yn lleol fel Eddie Hill, 20, a Jayden Long, 19, o Norfolk.
Cafwyd hyd i’w cyrff ar Yr Wyddfa ar 19 Chwefror ar ôl i’r heddlu, timau achub mynydd a Gwylwyr y Glannau chwilio am y ddau mewn amodau heriol ddydd Mercher.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe cafodd Jayden ei ddisgrifio gan ei chwaer, Josie, fel “brawd mawr anhygoel, caredig a gofalgar” a fu farw “yn gwneud rhywbeth roedd yn ei garu”.
Yn ôl papur yr Eastern Daily Press, mae brawd Eddie, Harry, wedi ei ddisgrifio fel “mab annwyl” a’r “brawd mwyaf rhyfeddol”.
Ychwanegodd: Ni all geiriau ddigrifio’r boen yr wyf fi, fy nheulu a ffrindiau yn mynd drwyddo ar hyn o bryd”.
Source link
#Teyrngedau #ddau #ddyn #ifanc #rhyfeddol #farw #Wyddfa

