Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’r bwrdd iechyd wedi bod mewn trafodaethau gydag Unite a staff ymwelwyr iechyd ers i gwynion ffurfiol gael eu cyflwyno ym mis Chwefror 2024.
“Roedd yna gais i ddiweddaru disgrifiad swydd ymwelydd iechyd Band 6 i adlewyrchu dyletswyddau’r rôl, ac i ailasesu’r swydd.
“Cafodd disgrifiad o’r swydd ei ailasesu a chytunwyd mai swydd Band 6 yw hi.
“Mae’r bwrdd iechyd yn ymwybodol, dros y blynyddoedd diwethaf, fod newidiadau wedi’u gwneud i ofynion addysg ar gyfer ymwelwyr iechyd o ganlyniad i benderfyniadau a gymerwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
“Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i weithio drwy’r newidiadau hyn fel rhan o drafodaethau cenedlaethol gydag undebau llafur.
“Rydym yn parchu hawliau cydweithwyr i gymryd camau gweithredu diwydiannol a byddwn yn gweithio gyda thimau i leihau’r aflonyddwch i deuluoedd ar draws ein cymunedau yn ôl yr angen.”
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod gan “GIG Cymru strwythur partneriaeth gymdeithasol cryf ac rydym yn annog y ddwy ochr i geisio cael datrysiad drwy ddefnyddio’r broses ffurfiol berthnasol”.
Source link
#Ymwelwyr #Iechyd #Bwrdd #Iechyd #Cwm #Taf #Morgannwg #streicio #fis

