Yn ôl aelod o Lywodraeth Cymru bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno ar 24 Chwefror oherwydd mai dyma’r amser gorau i sicrhau bod barn y Senedd ar gofnod wrth i DÅ·’r Arglwyddi barhau i’w ystyried.
Pe bai caniatâd yn cael ei roi, byddai angen pleidlais arall yn y Senedd ar ôl etholiad mis Mai er mwyn cytuno sut y byddai gwasanaeth cymorth i farw yn gweithredu.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut y byddai’r gwasanaeth ar gael yng Nghymru, a phwy fyddai’n ei weithredu.
Pe bai’n cael ei basio, byddai deddfwriaeth San Steffan yn gwneud cymorth i farw yn gyfreithlon yn y ddwy wlad, beth bynnag yw’r penderfyniad yn y Senedd, oherwydd nid yw newidiadau i gyfraith hunanladdiad wedi’u datganoli.
Mae cyfansoddiad Cymru yn golygu, er bod gan y Senedd gyfrifoldeb dros greu deddfau gofal iechyd, bod dal modd i wleidyddion yn Llundain basio deddfwriaeth ar y pwnc.
Os yw hynny’n digwydd, mae’n rhaid i’r Senedd gytuno ar gynnig cydsynio.
Nid yw’n gyfraith ond nid yw San Steffan fod i ddeddfu ar faterion sy’n gysylltiedig â’r Senedd heb dderbyn sêl bendith.
Source link
#Cymorth #farw #Gallai #sefydliadau #preifat #ddarparu #gwasanaeth

