Mae dyn a darodd fachgen pump oed a’i anafu’n ddifrifol gyda’i feic modur yn dweud ei fod yn teimlo’n “ofnadwy” ar ôl y gwrthdrawiad oherwydd ei fod yn meddwl ei fod wedi lladd y plentyn, mae llys wedi clywed.
Cafodd Arlo Buckley ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl y gwrthdrawiad ar Central Drive yn Shotton, Sir y Fflint, ar 11 Medi 2024.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd Kaylem Longhurst, 18, sydd eisoes wedi pledio’n euog i yrru’n beryglus, ei fod wedi gadael y lleoliad oherwydd ei fod yn ofni am ei ddiogelwch ei hun.
Mae Mr Longhurst, sydd o Nantwich yn Sir Gaer, ei fam Terry Follows, 42, ei phartner ar y pryd Shane Hunt, 39, ei frawd Dane Longhurst – oll o Stryd Clwyd yn Shotton – yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Source link
#Dyn #wedi #ffoi #ôl #taro #bachgen #oherwydd #ofn #achos

