Mae Aelodau o’r Senedd wedi pleidleisio o blaid rhoi’r grym i weinidogion reoli gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru petai deddf San Steffan yn cael sêl bendith.
Roedd 28 o blaid, 23 yn erbyn ac fe wnaeth dau Aelod o’r Senedd ymatal.
Mae hyn yn golygu y bydd gan weinidogion Cymru felly y grym i sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y GIG.
Fe wnaeth Aelodau o’r Senedd gefnogi hefyd welliant Plaid Cymru a oedd yn beirniadu “diffyg ystyriaeth drylwyr gobygliadau cyfansoddiadol y mesur hwn i Gymru”.
Byddai deddfwriaeth San Steffan yn galluogi rhai oedolion sy’n dioddef o salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr ddod â’u bywydau i ben.
Mae’r pwnc yn parhau i hollti barn, ac mae pryderon gan bobl o fewn y sector iechyd a gofal ynghylch manylion y mesur.
Mae’r mesur yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn NhÅ·’r Arglwyddi, lle mae cefnogwyr wedi codi pryderon y gallai’r nifer fawr o welliannau olygu na fydd y ddeddfwriaeth yn pasio.
Source link
#Cymorth #farw #Senedd #pleidleisio #blaid #rhoi #grym #weinidogion #reoli #gwasanaethau

