Meddai Trystan: “Roedd y plasty yn gartref i’r Wynniaid am dros 1000 o flynyddoedd.
“Ac wrth gwrs, tu ôl ni fan hyn mae yna dalp mawr o hanes pwysig ein cenedl ni, a dwi’n deud os y base ni’n genedl wâr, y base ni’n diogelu’r adeilad ‘ma i’r oes a ddêl oherwydd bod y lle mor bwysig i’n treftadaeth ac i’n diwylliant ni.”
Yng nghanol y 1930au, daeth y stad i chwarae rôl bwysig ym myd y ddrama cyn eu llwyfannu nhw yng nghanol y 1950au.
Richard Wynn, neu ROF Wynn oedd berchen y stad bryd hynny, ac roedd ganddo gariad at ddrama.
Dywedodd Trystan: “Y trobwynt oedd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1933 a ffurfio chwaraedy cenedlaethol i’r Cymry.
“Ond doedd ganddon nhw ddim cartre mewn gwirionedd.
“Dyma ROF Wynn yn penderfynu, be’ am i ni osod a threfnu dramâu yn y gofod ardderchog yn Gartherin.”
Y ddau awdur sy’n cael eu cysylltu fwyaf â’r plasty yw Kate Roberts a Saunders Lewis.
Ar y pryd, Kate Roberts oedd yn gyfrifol am bapur newydd Y Faner a hithau hefyd oedd yn adolygu dramâu’r cyfnod ar gyfer y papur.
Mewn llythyrau at ei gilydd sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, roedd Kate Roberts wedi ysgrifennu at Saunders Lewis pan welodd hello berfformiad o ddrama Blodeuwedd, gan ganmol y perfformiad yn fawr.
Fe ddisgrifiodd Kate Roberts berfformiad yr actorion yn y ddrama fel un “caboledig wych, mewn drama anodd”.
Source link
#Plasty #Garthewin #safle #pwysig #hanes #theatr #Cymraeg #werth

