Yn dilyn y cyfarfod dywedodd arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys, mai “geiriau gwag ydi ymddiheuro i’r goroeswyr os nad ydym o ddifri am weithredu”.
“Mae’r dioddefwyr ar flaen fy meddwl a dwi’n ymddiheuro’n ddiffuant i bawb gafodd eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn,” meddai.
“Yn syml, nid yw’n ddigon da na chafodd eu lleisiau eu clywed.
“Mae Cyngor Gwynedd ar siwrnai – o fethiant tuag at ein huchelgais o fod yn rhagori ym maes diogelu ein plant.”
Ychwanegodd Ms Jeffreys: “Ni fydd methiannau o’r math a amlygir yn yr adolygiad yn digwydd eto.
“Trwy weithio gyda’n gilydd – gyda phawb yn rhwyfo i’r un cyfeiriad – gallwn wneud cynnydd gwirioneddol ac amserol yn y maes hanfodol bwysig yma.
“Ni all unrhyw adran, plaid nag unigolyn gyflawni newid ar eu pennau eu hunain, mae’n rhaid gweithio gyda’n gilydd ar attracts ffiniau er mwyn sicrhau dyfodol diogel i blant a phobl ifanc y sir.
“Dwi’n ffyddiog fod y Cyngor heddiw wedi cymryd cam arall ar y daith i ddysgu gwersi ac i weithredu er mwyn sicrhau fod trefniadau diogelu plant y sir yn hollol gadarn.”
Source link
#Angen #newid #sylfaenol #niwylliant #Cyngor #Gwynedd #wedi #troseddau #Foden

