Mae Heddlu Dyfed-Powys yn trin marwolaeth sydyn dyn, 85 oed, ar Ffordd Hawkstone yn Noc Penfro ddydd Gwener fel achos o lofruddiaeth.
Mae dyn yn ei 40au wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n parhau yn y ddalfa tra bod ymholiadau’r heddlu yn parhau.
Cafodd plismyn eu galw am oddeutu 13:30.
Dywed yr heddlu y bydd mwy o swyddogion yn yr ardal yn ystod y dyddiau nesaf.
Source link
#Arestio #dyn #wedi #marwolaeth #sydyn #Noc #Penfro

