Pan o’n i’n chweched dosbarth o’n i’n mynd i Conti’s i gael horlicks a Limmits chocolate, dyna oedd fy nghinio i achos o’n i wastad yn trial colli pwyse ac o’n i’n cael sigarĆ©t a phopeth. Oedd cheek ‘da fi, o’n i’n ishte yn fan’na yn meddwl bo’ fi’n henach nag o’n i.
A dro arall bydden ni’n mynd yna i gwrdd Ć¢ boyfriends a bydde Leno’n cadw fy secrets i gyd ac yn dweud dim wrth Dad am y peth.
Bob dydd Calan bydde fi a Patricia Jones o’r banc wastad yn mynd o amgylch Llambed i hel calennig.
Ni oedd yr unig ddwy oedd yn mynd rownd yn canu Blwyddyn Newydd Dda gan harmoneiddio hefyd felly oedden ni’n meddwl bod ni yn bee’s knees achos o’n ni’n ennill lot o arian yn neud hynna ac oedd e’n brofiad ffantastig.
O’n i’n mynd mewn i Conti’s i hel calennig ac o’n ni’n gorfod perfformio. Bydde Leno’n dweud ‘Do it again now’ ac oedd e’n rhoi dau swllt, oedd yn lot bryd hynny.
Oedd e’n galon i’r gymuned, oedd pobl yn joio mynd mewn yna achos o’dd gymaint o bethe gwahanol yna ond y peth mwya odd pawb yn dwlu arno oedd yr hufen iĆ¢.
Oedd e’n arallfydol. Os o’n i wedi bod bant o’n i yn dod yn Ć“l ac yn ysu am yr hufen iĆ¢ achos oedd e jest yn ‘neud i fi deimlo mor ffab.
Ac mae’r hufen iĆ¢ dal i gael yr effaith yna arna i. Bob tro fydda i’n dod yn Ć“l i Lanbed mae’n rhaid i fi fynd i Conti’s achos fi’n teimlo’n gartrefol yna.
‘Wy’n rhan o’r dodrefn nawr. Mae Cariad y ci a fi yn mynd yna, ni’n eistedd ar bwys y ffenest ac yn ymlacio.
Oedd Leno’n gwybod sut i drin pobl, oedd e’n fachan cyfeillgar, caredig a bydd Llanbed yn lle gwahanol iawn hebddo fe. Mae Conti’s yn gredit i’r dre’.
Source link
#Cofio #Leno #Conti #hufen #iâ #arallfydol

