Mae pedwar particular person wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth bachgen 17 oed a fu farw yn dilyn digwyddiad yn Abertridwr, Sir Caerffili, brynhawn Iau.
Bu farw Tristan Shae Kerr, o Abertridwr, ar ôl i’r heddlu gael eu galw i eiddo ar Stryd Francis Isaf tua 17:45 ddydd Iau ar ôl adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu’n ddifrifol.
Mae tri dyn, 18, 24 a 26 oed, a menyw 24 oed wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth ac wedi’u cadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Mae menyw 28 oed o Henffordd, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, bellach wedi’i rhyddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion wedi mynychu eiddo yn Abertridwr yn dilyn adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu’n ddifrifol ac iddo gael ei gyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle.
Dywedodd uwch swyddog yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths, ei bod yn bwysig nad yw pobl yn dyfalu pwy oedd yn rhan o’r digwyddiad gan y gallai hynny effeithio ar yr ymchwiliad.
Ychwanegodd: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau’r dioddefwr. Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth, siaradwch â’n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol.”
Source link
#Cyhuddo #pedwar #particular person #lofruddiaeth #bachgen #oed #Abertridwr

