Rhwng 2024-25 mi wnaeth 956 o bobl gofrestru’n ddigartref gyda Chyngor Gwynedd, gyda 205 o aelwydydd yn byw mewn llety argyfwng anaddas fel gwestai neu wely a brecwast.
Mae 543 o ymgeiswyr hefyd ar restr am dai cymdeithasol yn ardal Caernarfon.
Yn ôl y Cynghorydd Paul Rowlinson, sy’n ddeilydd portffolio Tai ar Gyngor Gwynedd, mae’r cynllun yn gwneud defnydd o hen adeilad tra hefyd yn rhan o’r ateb i broblemau digartrefedd y sir.
“Mae o’n arloesol,” meddai.
“Mae’r swyddfa wedi bod yn wag ers bron i ddegawd rŵan a ‘di o ddim yn ddel iawn, mae ‘na goncrit ym mhob man.
“Mae ‘na storïau o agweddau gwrthgymdeithasol yn digwydd fel sydd yn aml yn digwydd mewn adeiladau gwag felly mi fydd yn adfywio tre Caernarfon.”
Source link
#Cynllun #arloesol #greu #unedau #bobl #ddigartref #yng #Nghaernarfon

