Dywedodd Chris Walters, prif swyddog gweithredol dros dro Ofwat, y byddai’r corff yn cefnogi’r gwaith o sefydlu rheoleiddiwr newydd ac yn “parhau i fod wedi ymrwymo i gyflawni ein swyddogaethau craidd” yn y cyfamser.
“Roedd Ofwat eisoes yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, DEFRA, Cyfoeth Naturiol Cymru a rheoleiddwyr eraill i sicrhau bod y sector yn symud tuag at ddyfodol mwy integredig a gwydn,” meddai.
“Cymeradwyodd ein Hadolygiad Prisiau 2024 y buddsoddiad mwyaf erioed yng Nghymru – dros £6.3bn – a fydd yn galluogi gwelliannau mawr i gwsmeriaid a’r amgylchedd erbyn 2030.”
Dywedodd Rhodri Williams o’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) fod “llawer o bobl yng Nghymru yn awyddus am newid, a gall y Papur Gwyrdd fod yn gatalydd i adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y sector dŵr”.
“Mae llai na hanner y defnyddwyr yng Nghymru yn fodlon ag ymdrechion eu cwmni dŵr i ddiogelu’r amgylchedd, felly mae’n galonogol gweld cynigion i gynyddu tryloywder ynghylch perfformiad amgylcheddol.
“Mae pobl eisoes yn teimlo’r boen yn eu poced oherwydd biliau dŵr uwch ac mae angen iddyn nhw weld tystiolaeth bod eu harian yn gwneud gwahaniaeth i’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.”
Source link
#Cynllun #weddnewid #sector #dŵr #cynnig #fflach #obaith

