Mae gan Papur y Bobl wasanaeth digidol hefyd, a Caio yw’r un sy’n gyfrifol am yr elfen honno o’r papur bro.
“Rhan fwyaf o’r amser fi ydy adran technegol bob dim,” meddai.
“Felly fi sy’n rhoi bob dim ar YouTube, editio pob dim a da’ ni’n neud podlediad hefyd.”
Yn ôl y ddau, gwaith tîm effeithiol yw’r allwedd tu ôl i’r cyfan.
“Da’ ni’n ffraeo yn aml, ond diwrnod newydd a ‘da ni’n iawn wedyn,” meddai Caio.
“Bysa fi ddim yn gallu ‘neud hyn heb Celyn, a ma’ siŵr fyse Celyn yn dweud hebdda fi fysa fo methu chwaith, so ‘da ni angen gweithio efo’n gilydd i gadw’r papur bro i fynd.”
Ychwanegodd Celyn y byddai “wir wrth fy modd yn bod yn newyddiadurwr, neu yn ohebydd”.
Source link
#Dau #gefnder #oed #cychwyn #papur #bro #newydd #yng #Ngwynedd

