Wrth gael ei holi am ei safbwyntiau ar ddatganoli ac a fyddai’n gofyn i Lywodraeth Prydain am ragor o arian, dywedodd Mr Thomas na fyddai’n gwneud hynny.
Dywedodd: “Rydyn ni angen i’r Senedd wneud y pethau sylfaenol yn gywir gynta’ cyn ni’n gofyn am ragor o arian neu bwerau neu rywbeth fel ‘na.”
“Dyna fyddai Reform yn ei wneud. Byddai Reform yn cymryd perchnogaeth o’r Senedd a dweud, ‘drychwch dyma sydd ganddo ni, gadewch ni neud e”.
“Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n sefyll lan dros Gymru ond byddwn ni’n cymryd perchnogaeth. Be ni ddim am wneud yw beirniadu unrhyw fethiannau ar y llywodraeth [y DU] a dyna be’ mae Llafur a Phlaid yn ei wneud.”
Wrth ymateb i’r cyfweliad dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Mae Reform UK a Phlaid Cymru yn dweud fod ganddyn nhw gynllun ar gyfer Cymru ond dy’ nhw ddim yn gallu rhoi unrhyw fanylion.
“Mae arweinydd newydd Reform UK yng Nghymru yn rhywun sydd wedi gadael y Ceidwadwyr er mwyn cael Farage mewn i Rif 10.
“Yr un hen sloganau ac atebion syml heb sylwedd. Maen nhw’n deud y gwna’ nhw arbedion ond yr hyn maen nhw’n olygu yw toriadau a dy’ ni ddim yn gallu dweud ble fydd y fwyell yn cwympo.”
Source link
#Dwi #wedi #bod #byw #yng #Nghymru #Arweinydd #Reform #yng #Nghymru

