Mae Elfyn Evans wedi ennill Rali Sweden am y trydydd tro ddydd Sul gan arwain Pencampwriaeth Rali’r Byd o 13 pwynt ar ôl dwy rownd.
Fe enillodd Evans a’i bartner, Scott Martin, y rali o 14.3 eiliad yn yr eira ac roedd yn cynnwys dros 18 o gymalau – sy’n cyfateb i 300 o gilometrau.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Evans ennill Rali Sweden ac eleni Evans oedd yn arwain am y rhan fwyaf o’r ras, sy’n para dros bedwar diwrnod.
“Dwi’n eithaf hapus ac yn teimlo rhyddhad rŵan,” meddai Elfyn Evans, 37.
Fe gollodd Evans allan ar gael ei goroni’n bencampwr ralio’r byd am y tro cyntaf y llynedd ar ôl iddo orffen yn chweched yn ras olaf y tymor – Rali Saudi Arabia.
Mae’n gobeithio am fwy o lwc eleni.
“Roedd hi’n anodd gyda’r holl reoli teiars, ond dwi’n hapus hefo’r amser yn y diwedd ac yn hapus hefo’r canlyniad,” meddai.
Source link
#Elfyn #Evans #ennill #Rali #Sweden #eto #arwain #tabl #byd

