Mae Aled Davies yn cofio sut y dechreuodd ei dad, Huw, deimlo’n sâl yn 2006 gyda symptomau tebyg i ffliw.
O fewn dyddiau roedd yn cael ffitiau ac yn ddryslyd a bu’n rhaid galw ambiwlans ar frys.
Er iddo gael ei anfon adref i ddechrau fe waethygodd ei gyflwr ac fe gafodd ddiagnosis o enceffalitis.
“O’dd hen dÅ· ffarm gyda ni ac o’dd ffenest lan lofft yn y toiled – roedd e’n meddwl taw drws oedd e, ac roedd e bron â chwympo mas o hwnna,” meddai Aled Davies.
“Ac wedyn fe gaeth e ffit eto, aeth e i’r ysbyty ond yna daeth e ma’s eto.
“Nôl yn 2006 doedd enceffalitis ddim yn rhywbeth roedd pobl yn adnabod, felly nawr mae’n bwysig i ni drio gwthio pethau a gw’bod be’ i edrych mas amdano.”
Source link
#Enceffalitis #Angen #gwbod #mwy #wedi #Dad #farw #cyflwr

