Roedd y digwyddiad yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef lleoliad Gwobrau’r Selar rhwng 2015 a 2020.
“Roedd hi’n grêt i fod nôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth eleni, ac roedd hi’n noson ardderchog” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.
“Pleidlais gyhoeddus sy’n dewis enillwyr y mwyafrif o’r categoriau wrth gwrs, felly mae’r rhestr enillwyr yn adlewychiad o’r hyn mae’r cyhoedd, y bobl sy’n mynd i’r gigs ac yn prynu’r gerddoriaeth, yn ei werthfawrogi.
“Er bod Buddug wedi cael noson ardderchog eto’n cipio tair gwobr, roedd tipyn o amrywiaeth ymysg yr enillwyr eraill ac mae hynny’n adlewyrchu amrywiaeth a bywiogrwydd y sin ar hyn o bryd.”
Ychwanegodd Mr Schiavone “yn bersonol, roedd yn braf iawn gallu rhoi’r wobr Cyfraniad Arbennig i Ed Holden, sy’n berson a cherddor dwi’n ei edmygu’n fawr, ac sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy dros y chwarter canrif diwethaf.”
Source link
#Enillwyr #Gwobraur #Selar

