Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod y llywodraeth bresennol wedi cymryd camau “i amddiffyn dros 52,000 o dai a busnesau rhag llifogydd yn ystod tymor y Senedd hon gyda mwy o fuddsoddiad nag erioed o’r blaen” a bod “Deddf Aer Glân nodedig” wedi’i phasio hefyd.
“Os cawn ein hail-ethol, byddwn yn glanhau ein hafonydd drwy ailwampio’r system ddŵr yn llwyr, gyda chorff gwarchod dŵr newydd a Bil Dŵr Glân i Gymru,” ychwanegodd y blaid.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd fod ymchwil Cyfeillion y Ddaear yn dangos bod y llywodraeth bresennol wedi “colli rheolaeth dros ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer pobl a natur”.
Os byddai’r blaid yn cael ei hethol, byddai’n dwyn cwmnïau dŵr i gyfrif ac yn pwyso am “berchnogaeth gyhoeddus wirioneddol i dorri’r taliadau dyled sy’n pentyrru’r punnoedd ar filiau pobl”, medden nhw.
Dywedodd Reform UK Wales fod record Llafur “ar ddiogelu ein dyfrffyrdd wedi bod yn ofnadwy”.
“Ac er gwaethaf llifogydd hynod ddinistriol ddiwedd y llynedd yn ne ddwyrain Cymru, ychydig iawn o arwydd yr ydym wedi’i weld bod llywodraethau ar y naill ben a’r llall o’r M4 o ddifrif ynglÅ·n ag atal llifogydd,” ychwanegon nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig na allai’r wlad fforddio “degawd arall o gerdded yn eu cwsg tuag at argyfwng”.
“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac, wrth wneud hynny, yn lleihau costau byw trwy greu mwy o swyddi yn yr economi werdd ac inswleiddio cartrefi i dorri biliau ynni.”
Dywedodd Plaid Cymru fod “bygythiadau amgylcheddol fel llifogydd, tirlithriadau a llygredd yn dangos nad yw’r argyfyngau hinsawdd a natur yn bethau sydd ar y gorwel, ond yn effeithio ar ein ffordd o fyw yn y presennol yng Nghymru.”
“Er bod rhai pleidiau’n dewis anwybyddu’r materion hyn, mae Plaid Cymru yn gwybod nad yw gohirio gweithredu brys i lywodraethau’r dyfodol yn opsiwn: mae’n rhaid i ni weithredu nawr, a gweithredu’n radical, i achub ein ffordd o fyw.”
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: “Ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan, mae ffigyrau Asiantaeth yr Amgylchedd yn dangos bod digwyddiadau llygredd dŵr difrifol wedi cynyddu o’i gymharu â than Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2023”.
“Ni fydd cynlluniau ar gyfer rheoleiddiwr newydd yn atal gollyngiadau carthffosiaeth, ni fyddant yn trwsio seilwaith sydd wedi torri ac ni fyddant yn atal cynnydd pellach mewn biliau dŵr.”
Source link
#Etholiad #Senedd #Cymru #Angen #dadl #ffyrnig #amgylchedd

