Ym mis Ionawr fe wnaeth Cyngor Conwy ddilyn Cyngor Sir Ddinbych drwy ddatgan argyfwng iechyd a galw am welliannau a dod â’r drefn o drin cleifion mewn coridorau i ben.
Wrth ymateb dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod gofal brys ac argyfwng yn “parhau’n flaenoriaeth” a’u bod yn cydnabod bod “gormod o gleifion yn aros yn hirach nag y dylent ac y gall hyn gael effaith sylweddol a gofidus ar unigolion a’u teuluoedd”.
“Mae rhaglen wella sylweddol ar y gweill ar draws ein hadrannau achosion brys. Mae hyn yn cynnwys rhoi clinigwyr profiadol wrth y drws ffrynt er mwyn asesu a chyfeirio cleifion at y gwasanaeth mwyaf priodol cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd; gwella mynediad cynnar at dimau arbenigol; atgyfnerthu penderfyniadau clinigol uwch ac ehangu gofal yn nes at y cartref fel bod y rhai sydd â’r anghenion mwyaf dybryd yn mynd i’n hadrannau achosion brys yn unig.”
Ychwanegodd bod y bwrdd iechyd wedi cyfarfod ag aelodau BEDS a Mr Borrough “i glywed am eu profiadau’n uniongyrchol” a’u bod yn “ddiolchgar iddynt am roi o’u hamser i rannu eu safbwyntiau gyda ni”.
“Mae diogelwch, urddas a lles ein cleifion wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Er bod mwy i’w wneud, rydym yn gweithio’n galed, yn ddiwyd ac yn benderfynol, i gyflawni gwelliannau cynaliadwy.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid yw gofal mewn amgylcheddau heb eu dynodi neu rhai nad ydynt yn glinigol yn dderbyniol. Mae’n peryglu urddas, diogelwch a lles cleifion.
“Rydym wedi darparu dros £200m o gyllid ychwanegol eleni i helpu pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod, i sicrhau eu bod yn derbyn y gofal cywir, yn y lle iawn ac ar yr adeg iawn.
“Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau yn seiliedig ar asesiad o anghenion y boblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ar gapasiti gwelyau ysbyty neu gwelyau yn y gymuned, er mwyn ateb y galw yn lleol.”
Source link
#Gofal #unedau #brys #gogledd #waeth #rhai #ysbytai #tlotar #byd

