Mae cael canu Hen Wlad fy Nhadau cyn gêm Cymru y math o gyfle mae’r gantores 26 oed wedi bod yn gweithio tuag ato ers blynyddoedd maith.
“Roedd ein cartref llawn canu ers o’n i’n ifanc iawn,” esboniodd.
“Roedd mam yn athrawes gerdd yn Ysgol Glan Clwyd ac yn arwain côr lleol yn Rhuthun ac roeddwn i a fy mrawd wastad yn mynd i’w sesiynau nhw efo mam ac yn eistedd a gwrando.
“Roedd hynna’n rhan fawr o’r hyn sydd wedi siapio fi fel cerddor.
Yn 13 oed, fe ymunodd Lisa â chôr ei mam, sef Côr Cytgan Clwyd.
“Dwi’n cofio fel plentyn canu yn y Cae Ras efo’r côr pan oedd Wrecsam yn chwarae pêl-droed, a dwi’n cofio Eisteddfodau hefyd pan o’n i’n tyfu fyny – dyna oedd fy mhrofiadau cyntaf o ganu o flaen cynulleidfa.
“Ond bydd dydd Sadwrn ar lefel arall.”
Source link
#Lisa #Dafydd #côr #lleol #Rhuthun #arwain #canu #Twickenham

