Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fe ddywedodd y dyneiddiwr Androw Bennett ei fod o blaid y bil ar ôl gweld perthynas iddo’n dioddef yn wael.
Esboniodd bod ei lystad mewn “poen difrifol iawn” yn ystod ei wythnosau olaf yn ôl yn 2006 a’i fod yn “ymbil bod e isie mynd nawr”.
Dywedodd nad oedd ei gorff yn gweithredu’n iawn a bod ei lystad yn teimlo’n “embaras”.
“Yn gorfforol o’dd e’n mynd trwy uffern,” meddai.
“Dwi’n heneiddio a mae gen i broblemau iechyd…. dwi ddim isie mynd trwy’r un cyfnod fel perthynas i mi 20 mlynedd yn ôl.”
Ar y llaw arall fe rannodd ymgynghorydd gofal lliniarol, Dr Siwan Seaman ar Dros Frecwast ei bod hi’n poeni am sgileffeithiau’r bil.
“Fy ngofid mwya’ i yw bydd y bil ‘ma’n tynnu cyllid oddi wrth y sector yma [gofal diwedd oes] sydd ei angen e’n fawr iawn.
“Dwi’n trin cleifion sy’n teimlo fel baich,” meddai – yn faich ar eu teuluoedd ac ar staff yr ysbyty.
“A dwi just yn meddwl os ydy claf fel ‘na yn clywed claf arall yn gofyn am gymorth i farw – be’ ma’ hwna’n dweud i’r claf arall am werth ei fywyd e?.”
Source link
#Mam #wedi #newid #barn #gymorth #farw #sgil #salwch #mab

