Ac i’w mamau, Dot ac Ann, a wyliodd y ddau’n cerdded o’u blaenau o’r disgo law yn llaw 20 mlynedd yn ôl, “roedd yn brofiad emosiynol”, ond mae’r ddau hefyd yn gytûn na fyddai eu perthynas wedi parhau am 20 mlynedd oni bai am eu cefnogaeth nhw fel rhieni.
Eglurai Dot, mam Michael: “Fe ddigwyddodd yn naturiol iddyn nhw. Ond fel pob agwedd arall o fywyd Michael ac Alison, maen nhw angen cefnogaeth.
“I bobl sy’n byw gyda Syndrom Down, fyddai perthynas ddim yn datblygu heb gefnogaeth teuluoedd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Ann a finnau wedi galluogi i Michael ac Alison weld ei gilydd bron bob diwrnod.
“Byddai’r berthynas heb barhau heb ein bod ni wedi bod yn dacsi, bwcio gweithgareddau, a bod o gwmpas iddyn nhw.”
Ac mae Ann, mam Alison yn cytuno.
Meddai: “Mae gan bobl ag anableddau dysgu’r un hawl i berthynas gariadus â phawb arall.
“Pan ddatblygodd perthynas Michael ac Alison, roeddwn i a Dot yn cael sgyrsiau agored iawn. Roedd yr holl beth yn newydd i ni hefyd, ac fe ges i ac Alison sgyrsiau agored am gyferiaid y berthynas.”
Source link
#Mewn #cariad #byw #gyda #Syndrom

