Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Zia Yusuf fod Prifysgol Bangor yn derbyn £30m y flwyddyn mewn cyllid cyhoeddus, “llawer ohono gan drethdalwyr sy’n pleidleisio Reform”.
Ychwanegodd: “Rwy’n siŵr na fyddent yn poeni am golli pob ceiniog o’r cyllid hwn o dan lywodraeth Reform.”
Dywedodd arweinydd Reform Cymru, Dan Thomas, ei bod yn “fater trist pan fydd cymdeithas ddadlau prifysgol yn ceisio dad-lwyfannu plaid wleidyddol”.
Ychwanegodd fod prifysgolion i fod yn “fannau ar gyfer trafodaeth rydd ac ymgysylltu â syniadau gwahanol, ond yn rhy aml mae grwpiau o fewn prifysgolion eisiau lapio eu hunain mewn gwlân cotwm”.
Dywedodd hefyd y byddai Reform yn diogelu’r rhyddid i lefaru ar gampysau ac yn sicrhau bod “hawliau sylfaenol” yn cael eu hamddiffyn.
Brynhawn Mawrth fe gyhoeddodd Reform Cymru eu bwriad i weithredu o fewn 100 diwrnod, pe bai nhw’n ffurfio llywodraeth ym mis Mai, i “amddiffyn rhyddid barn mewn prifysgolion”.
Mewn datganiad, dywedodd y blaid y byddai unrhyw sefydliadau sy’n mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth yn wynebu colli arian cyhoeddus.
Source link
#Prifysgol #Bangor #ymbellhau #benderfyniad #wrthod #sesiwn #Reform

