Mae dyn 57 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerfyrddin yr wythnos diwethaf.
Cafodd menyw “anafiadau trywanu” mewn ymosodiad honedig yn ardal Heol Picton a Pharc Caerfyrddin ddydd Iau, 29 Ionawr.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud apรชl gyhoeddus i geisio canfod James McKenna o’r dref yn dilyn y digwyddiad.
Fe gadarnhaodd nhw ddydd Llun bod unigolyn wedi cael ei arestio.
Dywedodd y llu nos Fercher fod Mr McKenna wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, bod รข llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a stelcian.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau.
Source link
#Cyhuddo #dyn #oed #geisio #llofruddio #yng #Nghaerfyrddin

