Mae dyn 28 oed o Sir Benfro wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth cwpl yn y gorllewin drwy yrru’n ddiofal.
Bu farw Katie Worrell, 25, ac Adam Muskett, 27, mewn gwrthdrawiad ar yr A477 yn Sir Gaerfyrddin ar 13 Mehefin 2024.
Roedd Alexander MacCallum yn gyrru automobile Jaguar i fyny rhiw mewn amodau gyrru gwael pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad gyda’r Ford Fiesta du rhwng Llanddowror a Rhos-goch.
Cafodd dau berson arall oedd yn y Ford Fiesta, oedd yn 27 a 33 oed, eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu bywyd.
Source link
#Dyn #pledion #euog #achosi #marwolaeth #cwpl #Sir #Gâr

