Fe raddiodd Tomos Griffiths, 23, sy’n byw yng Nghaerdydd, mewn hanes ac economeg yn 2024.
Fe astudiodd gwrs meistr hefyd mewn economeg ariannol, ac mae newydd ddechrau ei swydd gyntaf yn hyfforddi i fod yn ymgynghorydd ariannol.
“Dydi o ddim yn gwneud sense i fi a dydi o ddim fy nharo i fel system deg,” meddai.
“Dwi’n teimlo ei fod o’n targedu grŵp penodol o bobl sy’n ennill dros £28,000 a llai na £66,000.
“Ti angen ennill mwy na £66,000 (y flwyddyn) i allu cael gwared â’r llog, sy’n gyflog uchel iawn.”
Ychwanegodd nad oes llawer o raddedigion yn ymwybodol o’r sefyllfa ac nad ydy pobl yn deall “pa mor sydyn” mae’r llog yn cynyddu.
“Mae o’n dreth gudd er mwyn targedu grŵp o bobl sydd ddim ar y pres uchaf ond sy’n gallu rhoi canran bach o’u cyflog yn ôl.”
Source link
#Galw #system #decach #addalu #benthyciadau #myfyrwyr

