Yr wythnos hon mi glywodd Cian Edward Williams, 20, ei fod wedi llwyddo mewn cyfweliad i astudio yn Circomedia – coleg yn Lloegr sy’n hyfforddi ym maes y syrcas.
Ond oherwydd y newidiadau, dydy Cyllid Myfyrwyr Cymru ddim yn fodlon cyfrannu at ei ffioedd ac felly byddai’n rhaid iddo ddod o hyd i’r arian ei hun.
“Nath o roi fi lawr lot a hyd yn oed bron ‘neud i mi benderfynu nad oeddwn i am wneud yr audition,” meddai.
“Ges i e-bost basically yn dweud: ‘Da ni methu fundio chdi’ a bod ‘na ddim second option. Oedd o just yn teimlo bo’ nhw heb roi meddwl mewn iddo, heb feddwl am y backlash.“
Ei freuddwyd ydy teithio ar draws y byd yn perfformio, ond mae’n ansicr a fydd modd astudio rŵan i wireddu hynny.
Source link
#Myfyrwyr #wynebu #gorfod #talu #ffioedd #nad #cyrsiaun #cael #cydnabod

