Roedd Cymru yn edrych yn hyderus ac ar y blaen ar yr egwyl, am y tro cyntaf o dan yr hyfforddwr Steve Tandy.
Cic gosb arall gan Sam Castelow yn rhoi Cymru ymhellach ar y blaen o 20-5 ar gychwyn yr ail hanner.
Wedyn daeth cais gan yr Alban wrth i Finn Russell wibio dros y llinell gais i ddod a’r sgor yn 20-12 yn dilyn y trosiad llwyddiannus.
Cic gosb gan Jared Evans yn gweld Cymru yn mynd 23 – 12 ar y blaen.
Yn syth o’r gig i ailgychwyn, daeth cais sydyn i roi yr Alban yn ôl yn y gêm wrth i Darcy Graham fynd dros y llinell ac yna y trosiad gan Finn Russell yn gwneud y sgôr yn 23 – 19
Er bod Cymru wedi arwain ers 10 munud cynta’r gêm, yn ystod y chwe munud ola, mi aeth yr Alban ar y blaen am y tro cynta ar ôl cais gan George Turner a throsiad llwyddiannus arall gan Russell.
Siom i Gymru wrth i’r sgôr droi yn 23 – 26, ac er gwaetha’r ymdrech galed, dyma oedd y sgôr terfynol!
Dyma bedwerydd buddugoliaeth Yr Alban yn olynol yn erbyn Cymru a hynny am y tro cyntaf ers 99 o flynyddoedd
Mae’r Alban ar frig tabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru yn aros ar y gwaelod heb ennill gêm.
Fydd Cymru yn wynebu Iwerddon nesa yn Nulyn ar 27 Chwefror.
Source link
#Siom #wrth #Gymru #golli #thri #phwynt #erbyn #Alban

